Pecyn Cymorth ar gyfer
Eglwysi Gwledig
Gwyddom fod unigedd ac unigrwydd ar gynnydd. Gall unigrwydd gael effaith ddwys ar ein hiechyd corfforol yn ogystal ag ar iechyd meddwl. Mae bod yn unig cynddrwg i’ch iechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd. Mae astudiaethau epidemiolegol trylwyr wedi cysylltu unigrwydd ac unigedd cymdeithasol â chlefyd y galon, canser, iselder ysbryd, diabetes a hunanladdiad.
Bydd hyn yn amlwg yn cael effaith economaidd ar ofal iechyd ac mewn meysydd eraill; heb sôn am yr effaith ar yr unigolion dan sylw.
Awgrymodd arolwg cenedlaethol yn 2016-17 bod 17% o bobl yng Nghymru – tua 440,000 o bobl – yn teimlo’n unig. Gall y broblem fod yn waeth mewn ardaloedd gwledig, ble mae cymunedau’n fwy ynysig ac yn bellach o wasanaethau cyhoeddus.
Yn 2020 lansiodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Cysylltu Cymunedau er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach.