Pecyn cymorth i Eglwysi Gwledig
Mae gwaith lleygwyr wrth gynllunio addoliad yn gynyddol bwysig, wrth i glerigwyr gwledig ddod yn gyfrifol am grwpiau mwy o eglwysi.
Bydd Addoli Gyda’n Gilydd yn galluogi addolwyr gwledig i arwain addoliad heb gyfraniad ymarferol clerigwyr.
Derbyniodd gweinidog alwad ffôn gan un o aelodau ei heglwys: nid oedd unrhyw un ar gael i arwain eu haddoliad y Sul canlynol felly roeddent yn meddwl tybed a fyddai’n iawn pe byddent yn gofyn i bobl ddewis eu hoff emyn a siarad pam ei fod yn arbennig iddyn nhw. ‘Wrth gwrs’, atebodd y gweinidog.
Wrth ymweld â’r eglwys yr wythnos ganlynol, dywedwyd wrth y gweinidog gymaint oeddent wedi mwynhau’r gwasanaeth yr wythnos flaenorol: ‘Nid oeddem yn gwybod bod Elsie yn meddwl fel hyn ac roedd Jack yn meddwl fel arall. Roedd yn amser gwych o rannu, allwn ni wneud hyn eto?’
Y disgwyliad i’r mwyafrif o gynulleidfaoedd eglwysig yw eu bod yn cwrdd yn rheolaidd i rannu gwasanaeth o addoliad gyda’i gilydd. Efallai y bydd y cynnwys yn amrywio, ond bydd cyfleoedd i weddïo gyda’n gilydd, canu os ydych chi’n mwynhau hynny, darllen y Beibl a myfyrio ar yr hyn y mae Duw yn ei ddweud. Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer cyfeillach.
Datblygwyd ‘Addoli Gyda’n Gilydd’ gan y Parchg Elizabeth Clark, Swyddog Gwledig Cenedlaethol yr Eglwysi Methodistaidd a Diwygiedig Unedig, a’r Parchg Dr Mark Betson, Swyddog Gwledig Cenedlaethol Eglwys Loegr.
Mae’r adnodd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio’n ecwmenaidd ac mae’n cydnabod heriau a chyfleoedd arweinyddiaeth leyg mewn gwahanol enwadau.
Addoli gyda’n gilydd